Home > News > Mae angen proses newydd ac annibynnol ar y Senedd ar gyfer cwynion yn erbyn aelodau
Share

Mae angen proses newydd ac annibynnol ar y Senedd ar gyfer cwynion yn erbyn aelodau

Senedd847
Ray Morgan / Shutterstock.com

Mae FDA Cymru yn galw am broses wirioneddol annibynnol i ddelio â chwynion am ymddygiad Aelodau’r Senedd.

Mae hi’n anodd darllen yr adroddiad diweddaraf gan Gomisiynydd Safonau’r Senedd ar gyfer y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2021 gan ei fod yn dangos cynnydd o 124% mewn cwynion. Yn y cyd-destun hwn, mae Swyddog Cenedlaethol FDA Cymru Gareth Hills wedi galw ar y Senedd i gyflwyno proses sy’n adlewyrchu honno sydd ar waith bellach yn Nhŷ’r Cyffredin, gan gynnwys Panel o Arbenigwyr Annibynnol, sydd â’r awdurdod i
wneud penderfyniadau ar ganlyniadau ymchwiliadau a sancsiynau ar gwynion sy’n cael eu cadarnhau.

Roedd yr undeb wedi cyflwyno’r achos dros gyflwyno Panel o Arbenigwyr Annibynnol mewn ymateb i ymgynghoriad ynghylch cod ymddygiad y Senedd yn gynharach eleni (ar gael i’w ddarllen yn Gymraeg ac yn Saesneg). Er bod FDA Cymru wedi croesawu cynnig yr adolygiad i gysoni’r cod yn well â’r polisi Urddas a Pharch a fabwysiadwyd gan y Senedd yn 2018, mae Hills wedi beirniadu’r ffaith nad oedd wedi cyflwyno proses annibynnol i ddelio â chwynion yn erbyn Aelodau’r Senedd a chyn Aelodau’r Senedd.

“Mae ein profiad o Seneddau ym mhob cwr o’r DU yn dangos na fydd yr egwyddorion hynny ond yn effeithiol os cânt eu hategu gan weithdrefn cwynion annibynnol effeithiol sy’n gwbl annibynnol ar ymyrraeth wleidyddol, ac sy’n ennyn ymddiriedaeth a hyder staff y Senedd, awdurdodau’r Senedd ac Aelodau’r Senedd” eglurodd Hills.

Mae Swyddog Cenedlaethol FDA Cymru hefyd wedi cwrdd â Chadeirydd newydd y Pwyllgor Safonau, Vikki Howells, i drafod sut gall FDA Cymru weithio gyda nhw i sicrhau bod y Senedd yn cyflwyno proses newydd sy’n gwbl annibynnol ar gyfer delio â chwynion.

“Roedd y cyfarfod gyda Vikki Howells yn gadarnhaol dros ben ac rwyf wrth fy modd ein bod wedi cytuno i barhau â’r ddeialog,” dywedodd Hills. “Fe wnaeth hi bwynt gwych am yr angen am un polisi hawdd ei ddeall sy’n amlinellu proses mewn termau syml. Roedd hi hefyd yn barod iawn i dderbyn fy sylwadau bod hwn yn gyfle i’r Senedd dynnu sylw ato’i hun fel cyflogwr enghreifftiol yng Nghymru drwy hyrwyddo agenda Gwaith Teg Llywodraeth Cymru, hyrwyddo hawliau yn y gweithle, a mynd i’r afael â bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu.”

Heb gyflwyno polisi newydd, annibynnol, mae perygl i’r Senedd fod ar y cyrion o’i gymharu â gwledydd eraill y DU. Ym mis Mehefin 2020 roedd Tŷ’r Cyffredin wedi cymeradwyo cam olaf proses annibynnol drwy bleidleisio dros gynnig i sefydlu’r Panel newydd o Arbenigwyr Annibynnol er mwyn penderfynu ar sancsiynau ar gyfer cwynion a fyddai’n cael eu cadarnhau ynghylch bwlio, aflonyddu ac aflonyddu rhywiol yn erbyn ASau – union yr hyn roedd yr FDA wedi bod yn ymgyrchu drosto. Yn dilyn hyn, ym mis Mehefin 2021, cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban ymrwymiad i gyflwyno proses newydd, annibynnol ar gyfer delio â chwynion am fwlio, aflonyddu ac aflonyddu rhywiol yn erbyn Gweinidogion a chyn-Weinidogion.

Yn ôl Hills, mae’r gweithdrefnau cwyno presennol sydd ar gael i’r 460 o staff a gyflogir gan Gomisiwn y Senedd yn “rhy gymhleth”, sy’n gallu arwain at oedi wrth ddelio â chwynion, a “diffyg annibyniaeth lawn”, gan fod y trefniadau’n cynnwys Aelodau’r Senedd ac yn caniatáu i’r Senedd gyfan wneud y penderfyniadau terfynol ynghylch torri’r cod ymddygiad.

“Ein blaenoriaeth yw cael polisi cadarn ac annibynnol sy’n ennyn ymddiriedaeth a hyder Aelodau’r Senedd a’r rheini sy’n gweithio i’r Comisiwn,” meddai. “Byddai hefyd yn gam cyntaf tuag at sicrhau bod hawliau aelodau’r FDA yn Llywodraeth Cymru, Estyn a chyrff datganoledig eraill sy’n cwrdd ag Aelodau’r Senedd, yn gweithio gyda nhw ac yn darparu cyngor iddynt yn cael eu parchu hefyd.”

Related News