FDA Cymru: Yn cefnogi amgueddfeydd a llyfrgelloedd Cymru
Mae FDA Cymru yn parhau i ymgyrchu i ddiogelu dyfodol Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, er mwyn amddiffyn swyddi yng Nghymru a gwneud yn siŵr bod cenedlaethau’r dyfodol yn cael cyfle i fwynhau cyfoeth ein diwylliant a’n hanes.
Bu’n rhaid i Lyfrgell Genedlaethol Cymru a’r saith amgueddfa sy’n rhan o Amgueddfa Cymru gau oherwydd Covid pan ddaeth y cyfyngiadau symud ar draws y DU, yn ystod y cyfyngiadau rhanbarthol yng Nghymru, ac yn ystod y cyfnod atal byr diweddar. Yn sgil hyn, mae sefyllfa ariannol y sefydliadau, a oedd eisoes yn fregus, yn waeth fyth.
Mae diffygion strwythurol eisoes yn bodoli ar ôl degawd a mwy o doriadau i gyllid cymorth grant, ac mae maint y diffyg hwn wedi cynyddu yn sgil tri ffactor yn ystod y pandemig:
- Cyllid cymorth grant 2020 yn cael ei dynnu’n ôl yn ystod y flwyddyn: £440,000 Amgueddfa Cymru a £200,000 Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
- Mae’r refeniw ymwelwyr wedi gostwng yn sylweddol – yr amcangyfrif ar hyn o bryd yw £1.8 miliwn ar gyfer yr amgueddfeydd, a £600,000 ar gyfer y Llyfrgell Genedlaethol.
- Costau annisgwyl ychwanegol er mwyn darparu offer i staff weithio gartref, a pharatoi safleoedd i ailagor.
Dywed Gareth Hills, Swyddog Cenedlaethol FDA ar gyfer Cymru fod yr undeb wedi ymroi’n llwyr i weithio gyda’r ddau sefydliad i “sicrhau eu bod yn gallu cael arian drwy’r cynlluniau ffyrlo. Mae hyn yn diogelu swyddi mewn cymunedau, o Lanberis yn y gogledd, i Aberystwyth yn y canolbarth, Castellnewydd Emlyn yn y gorllewin, ac o Abertawe i Went drwy’r cymoedd a Chaerdydd. Mae’n helpu sefydliadau diwylliannol hefyd i adennill symiau sylweddol o incwm sydd wedi’i golli.”
Mae cydgytundeb newydd wedi’i ffurfio ag Amgueddfa Cymru er mwyn iddyn nhw allu defnyddio’r cynllun ffyrlo yn llawn. Bydd trafodaethau tebyg yn cychwyn cyn bo hir gyda’r Llyfrgell Genedlaethol hefyd.
Mae FDA Cymru wedi ysgrifennu hefyd at y Gweinidog Cyllid a’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, yn galw am arian ychwanegol ar unwaith ac iddynt fynd ati’n ddi-oed i weithredu’r argymhellion sydd yn adroddiad pwyllgor diwylliant y Senedd am effaith Covid-19. Roedd hyn yn cynnwys cydnabod yr angen am fodel cyllido gwell.
Yn ogystal â hyn, mae FDA Cymru ar y cyd â’r undebau llafur PCS Cymru a Prospect Wales, wedi ysgrifennu at arweinyddion y pedair prif blaid wleidyddol, gan alw arnynt i sicrhau bod eu maniffestos ar gyfer etholiad 2021 yn cynnwys ymrwymiad i gyflwyno model cyllido newydd a chynaliadwy.
“Ni ddylid diystyru maint yr heriau sy’n wynebu’r ddau sefydliad, mae llawer yn y fantol yma. Mae’r ddau sefydliad yn rhan o gyfoeth hanes diwylliannol Cymru a rhaid eu gwarchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol,” yn ôl Hills.
“Dyna pam mae ein hymgyrch i gefnogi amgueddfeydd a llyfrgelloedd Cymru wedi galw am fodel cyllido newydd a chynaliadwy. Model cyllido yn seiliedig ar gynnydd sylweddol mewn cymorth grant a fydd yn rhoi cyfle i’r ddau sefydliad ffynnu a sicrhau eu dyfodol yn y tymor hir. Model cyllido i gefnogi diwylliant Cymru ac i ddiogelu swyddi yng Nghymru.”
Related News
-
FDA launches its Autumn organising roadshow
As part of the union’s work to improve its local visibility, the FDA launched its Autumn organising roadshow at the Ministry of Justice building in Petty France, London.
-
FDA responds to independent learning review for Ofsted
The FDA has welcomed Ofsted’s positive response to the Gilbert Review and committed to work with the organisation to deliver on the recommendations made.
-
Meet the President: Margaret Haig
The FDA’s newly elected President Margaret Haig discusses with Katherine Hutchinson the key challenges facing the civil service, and lays out the best things about being part of the union.