FDA calls on Senedd to implement “fully independent process for dealing with complaints of bullying, harassment and sexual harassment”
FDA Cymru|Wales has called on the Senedd to “implement a fully independent process for dealing with complaints of bullying, harassment and sexual harassment” made against MSs.
This call was included in FDA Cymru|Wales’s written evidence for the Standards of Conduct Committee’s ‘Inquiry into dignity and respect’, in which the union set out how the Senedd can better ensure unacceptable behaviour by elected officials does not go unpunished.
Explaining why independence is so vital for an effective process, the evidence argued that “members of staff should feel confident to put in their complaint and that it will be investigated… fairly, and a sanction determined free from political interference”.
“The public also expects fair and equal treatment for all elected officials and complainants regardless of political party, status or seniority,” it continued.
The evidence also points to Westminster and the establishment of the Independent Expert Panel (IEP) to make decisions on sanctions on upheld complaints of bullying, harassment and sexual harassment against MPs. The FDA’s House of Commons branch helped design this process and FDA Cymru|Wales has made it clear it will “offer any and all support… in the implementation of an independent process for the Senedd”.
The evidence also noted the House of Commons Commission’s proposals for a risk based exclusion policy for MPs who are subject to serious allegations relating to a violent or sexual offence – which was a significant victory for the FDA and fellow trade unions. The evidence calls on the Senedd to follow this example.
FDA National Officer for Cymru|Wales Gareth Hills accused the Senedd’s current process for dealing with complaints made against MSs of “failing to compare to an employer’s disciplinary policy and falling behind the progress made in other UK administrations”.
“Evidence from across the UK demonstrates that only independent processes promote staff safety over political expediency,” Hills added. “Politicians should not mark their own homework.”
Hills also discussed this in a live appearance on BBC Radio Wales, where he argued that “there’s a blueprint there in the House of Commons that the Senedd could easily adapt because, at the moment, the Senedd, I’m afraid, is falling behind the progress made in other UK administrations”.
“People need to have confidence in the system,” he explained. “They need to have confidence that their complaint will be fairly investigated and that any outcome will be fairly considered, free from political interference. Without that confidence, people won’t be making complaints… we’ve seen that it can be done in the House of Commons.”
Yr FDA yn galw ar y Senedd i weithredu “proses gwbl annibynnol ar gyfer delio â chwynion am fwlio, aflonyddu ac aflonyddu rhywiol”
Mae FDA Cymru wedi galw ar y Senedd i “weithredu proses gwbl annibynnol ar gyfer delio â chwynion am fwlio, aflonyddu ac aflonyddu rhywiol” a wneir yn erbyn Aelodau o’r Senedd.
Cafodd yr alwad hon ei chynnwys yn nhystiolaeth ysgrifenedig FDA Cymru i ‘Ymchwiliad Urddas a Pharch’ y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Nododd yr undeb sut gall y Senedd sicrhau’n well nad yw ymddygiad annerbyniol gan swyddogion etholedig yn cael ei anwybyddu.
Wrth esbonio pa mor bwysig yw annibyniaeth mewn proses effeithiol, roedd y dystiolaeth yn dadlau y dylai “aelodau o staff deimlo’n hyderus i gyflwyno eu cwyn ac y bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i’r gŵyn…yn deg, a bod sancsiynau’n cael eu gweithredu heb ymyrraeth wleidyddol”.
“Mae’r cyhoedd hefyd yn disgwyl bod yr holl swyddogion etholedig a’r achwynwyr yn cael eu trin yn deg a chyfartal, beth bynnag fo’u plaid wleidyddol, eu statws neu eu safle o fewn y sefydliad”.
Mae’r dystiolaeth hefyd yn cyfeirio at San Steffan a sefydlu’r Panel Arbenigol Annibynnol (IEP) i wneud penderfyniadau ar y sancsiynau a roddir i Aelodau Seneddol yn dilyn achosion o fwlio, aflonyddu ac aflonyddu rhywiol. Roedd cangen Tŷ’r Cyffredin yr FDA wedi helpu i ddylunio’r broses hon ac mae FDA Cymru wedi datgan yn glir y bydd yn “cynnig unrhyw gymorth y gall… i roi proses annibynnol ar waith yn y Senedd”.
Roedd y dystiolaeth hefyd yn cyfeirio at gynigion Comisiwn Tŷ’r Cyffredin ar gyfer polisi gwahardd yn seiliedig ar risg i Aelodau Seneddol sy’n destun honiadau difrifol yn ymwneud â throsedd dreisgar neu rywiol. Roedd hwn yn llwyddiant pwysig i’r FDA a’r undebau llafur eraill. Mae’r ddogfen dystiolaeth yn galw ar y Senedd i ddilyn yr esiampl hon.
Wrth ddisgrifio proses bresennol y Senedd ar gyfer delio â chwynion yn erbyn Aelodau’r Senedd, awgrymodd Gareth Hills, Swyddog Cenedlaethol FDA Cymru, “nad oedd yn cymharu â pholisi disgyblu cyflogwyr eraill a’i bod yn disgyn ar ei hôl hi o’i gymharu â’r cynnydd a wnaed mewn gweinyddiaethau eraill yn y DU”.
Ychwanegodd Hills, “mae tystiolaeth o bob rhan o’r DU yn dangos mai dim ond prosesau annibynnol sy’n gallu rhoi’r pwys mwyaf ar ddiogelu staff yn hytrach nag ar hwylustod gwleidyddol. Ni ddylai gwleidyddion farcio eu gwaith cartref eu hunain”.
Mae Hill hefyd wedi trafod hyn mewn ymddangosiad byw ar BBC Radio Wales, lle dadleuodd “bod glasbrint yn Nhŷ’r Cyffredin y gallai’r Senedd ei addasu’n hawdd oherwydd, ar hyn o bryd, rwy’n ofni bod y Senedd ar ei hôl hi o’i gymharu â gweinyddiaethau eraill yn y DU a’r cynnydd maen nhw’n ei wneud”.
“Mae angen i bobl fod yn hyderus yn y system,” eglurodd. “Mae angen iddynt fod yn hyderus y bydd eu cwyn yn cael ei hymchwilio’n deg ac y bydd unrhyw ganlyniad yn cael ei ystyried yn deg, heb ymyrraeth wleidyddol. Heb yr hyder hwnnw, fydd pobl ddim yn cwyno… rydyn ni wedi gweld bod hynny’n bosib yn Nhŷ’r Cyffredin.”
Related News
-
“Significant victory” for FDA members: MPs vote to introduce risk-based exclusion at the point of arrest
FDA welcomes MPs vote to introduce a formal mechanism to risk assess any MP at the point of arrest.
-
FDA calls on Senedd to implement “fully independent process for dealing with complaints of bullying, harassment and sexual harassment”
FDA Cymru|Wales has called on the Senedd to “implement a fully independent process for dealing with complaints of bullying, harassment and sexual harassment” made against MSs.
-
Announcement on risk-based exclusion in Parliament a “significant victory”, says FDA
Updated proposals on a risk-based exclusion policy in Parliament from the House of Commons Commission are a “significant victory” for the FDA and should now be implemented without delay.