Dydd Gŵyl Dewi: a phwysigrwydd diwylliant Cymru
Mae Gareth Hills, Swyddog Cenedlaethol yr FDA ym myfyrio ynglŷn â beth y mae Dydd Gŵyl Dewi yn ei olygu iddo ef, a’r pwysigrwydd o gadw a dathlu diwylliant a hanes Cymru.
Bob blwyddyn ar 1af Mawrth, mae pobl drwy Gymru yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi. Mae’r dyddiad bob amser wedi bod o arwyddocâd arbennig yng nghartref y teulu Hills oherwydd mai hwn oedd diwrnod pen-blwydd fy nain hefyd.
Fel plentyn yn tyfu yng Nghwm Garw – cwm ‘pengaead’ gydag un lôn i mewn a’r un lôn i fynd oddi yno – roedd Dydd Gŵyl Dewi yn golygu cyngherddau ysgol – eisteddfodau. Byddem yn canu emynau yn yr iaith Gymraeg (gan fwyaf), ac yn adrodd cerddi Cymraeg (gan fwyaf) – ac ni fyddem yn deall y rhan fwyaf ohonyn nhw.
Byddai’r genethod yn gwisgo mewn siolau Cymreig a hetiau uchel duon traddodiadol a byddem i gyd yn gwisgo cenhinen neu gennin Pedr. Byddai’r ysgol yn cau am hanner dydd am wyliau hanner diwrnod. Fel arfer, byddai hynny yn golygu cerdded adref wrth fwyta cennin amrwd, gwlybion!
Roedd y dathliadau Dydd Gŵyl Dewi hynny yn ystod fy mhlentyndod yn magu balchder ac angerdd bythol ynof am Gymru a diwylliant Cymru, ac ar ôl dechrau fy swydd fel Swyddog Cenedlaethol yr FDA dros Gymru ar 3ydd Mawrth 2020, mae gan y diwrnod arwyddocâd ychwanegol i mi oherwydd yn awr ei fod yn nodi pen-blwydd fy niwrnod olaf fel gwas sifil.
Rydw i wedi bod yn byw ym Mryste ers 23 mlynedd a, thra fy mod yn caru’r ddinas lle cwrddais â’m gwraig a lle rydw i wedi setlo yn fy nghartref teuluol, rydw i’n parhau i gael teimladau o hiraeth* am y wlad lle’m ganed.
Tra’r oeddwn ar alwad gydag aelodau o Estyn yn gynnar yn ystod F.01 o’r cyfyngiadau symud, crybwyllais fy mod yn dymuno dysgu Cymraeg unwaith eto, ar ôl ei astudio y tro diwethaf ar gyfer fy arholiadau TGAU. Fel y byddech chi’n ddisgwyl gan bobl broffesiynol addysgol, cyfeiriwyd fi at Ddysgu Cymraeg/Learn Welsh. Edrychais ar eu cynigion dysgu ar-lein a dechreuais drwy wylio sesiynau deg munud ar gyfer dechreuwyr bob dydd ar YouTube. Ers yr haf y llynedd, rydw i wedi bod yn gweithio fy ffordd yn ôl at lefel TGAU drwy ddefnyddio eu llawlyfrau ar gyfer camau Mynediad, Canolraddol ac Uwch.
Nid wyf yn hawlio y byddai i byth yn rhugl, ond mae gallu cyflwyno fy hun a sgwrsio yn gwrtais (os nad yn sylfaenol) yn yr iaith Gymraeg wedi bod yn fantais yn bendant, yn arbennig felly mewn cyfarfodydd gyda sefydliadau diwylliannol yr ydw i’n gweithio gyda nhw – Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn wir, mae’n weddol gyffredin i gyfarfodyd gyda’r olaf gael eu cynnal yn gyfan gwbl drwy’r iaith Gymraeg, gyda chyfieithu ar y pryd i’r Saesneg!
Mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi’i lleoli mewn adeilad urddasol ar Allt Penglais yn Aberystwyth ac mae yno olygfeydd ysblennydd o Fae Aberteifi. Mae dros 6.5 miliwn o lyfrau a chyfnodolion yn y Llyfrgell, ac yno mae’r casgliad mwyaf o archifau, portreadau, mapiau a delweddau ffotograffig yng Nghymru, gan gynnwys rhai o’r llawysgrifau hanesyddol pwysicaf yn y Gymraeg, gyda’r un gynharaf yn dyddio’n ôl i 113 OC.
Yn ystod fy mlwyddyn olaf ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, roeddwn i’n ddigon ffodus o gael tocyn darllenydd ar gyfer y Llyfrgell Genedlaethol, yn y dyddiau pan oedd myfyrwyr y flwyddyn olaf fod i gael eu noddi gan diwtor prifysgol er mwyn ymgeisio. Drwy lwc, llwyddodd nodyn gan y gwych, ond yn anffodus y diweddar Athro PDG Thomas (prif hanesydd y cyfnod Sioraidd) gael tocyn i mi, ac roedd y cyfoeth o ddeunyddiau yn werthfawr i mi wrth ymchwilio ac ysgrifennu fy nhraethawd hir.
Mae gan Amgueddfa Cymru saith o safleoedd drwy Gymru yn awr, ond y safle yr oeddwn i’n fwyaf cyfarwydd ag ef yn ystod fy mhlentyndod, drwy lawer o deithiau ysgol a chyda teulu, oedd adeilad mawreddog arall ym Mharc Cathays, Caerdydd. Ynghyd â Neuadd y Ddinas a Llys y Goron (lle dechreuais fy ngyrfa fel gwas sifil), mae’r Amgueddfa yn rhan o ffrynt triphlyg gwefreiddiol yng nghanolfan ddinesig Caerdydd.
Ynghyd ag Amgueddfa Hanes Cymru yn Sain Ffagan (cartref i ddeugain o adeiladau a ailadeiladwyd o wahanol gyfnodau a gwahanol rannau o Gymru, a’r cwbl wedi’u gosod ar dir rhyfeddol maenor Rhestredig Gradd 1 o oes Oes Elisabeth), mae’r galerïau yng Nghaerdydd yn awr yn un o ffefrynnau cadarn fy merched.Roedd y ddealltwriaeth bersonol honno a’r gwerthfawrogiad o bwysigrwydd hanesyddol y Llyfrgell a’r Amgueddfa, a’u pwysigrwydd yn y dyfodol, i ddiwylliant Cymru yn rhywbeth y tynnais o’r cof dro ar ôl tro wrth ymgyrchu dros fwy o gyllid cynaliadwy gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y sefydliadau. Mae ein sefydliadau diwylliannol yn diogelu llawer mwy na chasgliadau ffisegol, maen nhw’n diogelu diwylliant hanesyddol torfol y genedl.
Yn dilyn misoedd o lobïo aelodau’r Senedd, roeddwn wrth fy modd gyda chyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn gynnar ym mis Chwefror am becyn cyllid dwy flynedd o £6.5m i gefnogi’r sefydliadau, a dywedais ei fod yn teimlo fel ‘dechrau o’r newydd i ddiwylliant yng Nghymru’. Mae’r pecyn hwnnw wedi darparu’r ddau sefydliad gyda lle i anadlu sydd fawr ei angen ac mae wedi atal diswyddiadau arfaethedig, gwarchod cannoedd o swyddi ar hyd a lled Cymru, a byddwn yn parhau i ymgyrchu er mwyn sicrhau bod y cynnydd yn y cyllid yn cael ei gynnal. Bydd hyn yn allweddol er mwyn gwarchod treftadaeth a swyddi yng Nghymru, a chyflawni dechrau newydd ystyrlon ar gyfer diwylliant yng Nghymru.
Byddaf yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi eleni gan wybod nad yw fy mhlentyndod o falchder ac angerdd dros Gymru a’i diwylliant byth wedi gwegian. Mewn gwirionedd, fel Swyddog Cenedlaethol yr FDA, rydw i’n teimlo yn fwy Cymreig nag ar unrhyw amser ers croesi Pont Hafren (yr un wreiddiol)!
*Prin bod modd cyfieithu’r gair ‘hiraeth’ i’r iaith Saesneg. Y ffordd orau i ddisgrifio ei ystyr yw awydd hiraethus, poenus am amser a lle – fel arfer cartref, ac fel arfer am Gymru ei hun.
Related News
-
FDA welcomes additional CPS funding to support victims of crime
The FDA has welcomed that the CPS will be receiving additional resources. The announcement follows the recent publication of the FDA’s report examining the CPS’s role in increasing RASSO prosecutions.
-
Budget response: FDA welcomes HMRC investment but raises concerns over ongoing departmental efficiencies
Budget response: FDA welcomes HMRC investment but raises concerns over ongoing departmental efficiencies
-
FDA tells MSPs uncertainty around jobs regarding future of new education body has been “very difficult”
The FDA has expressed concerns over job security, pay and a long hours culture to the Scottish Parliament, regarding the creation of a new education body in Scotland.