FDA Cymru: ffocws a gweithgarwch newydd
Nid oedd taith Gareth Hills i fod yn Swyddog Cenedlaethol FDA Cymru yn un gonfensiynol, ar ôl treulio 34 mlynedd fel gwas sifil yn CThEM a dros chwarter canrif fel aelod o’r FDA. Mae wedi dal llawer o swyddi yn yr undeb, yn amrywio o fod yn gynrychiolydd cangen leol i fod yn Llywydd Cenedlaethol yr undeb rhwng 2015 a 2018, ac yn 2020 penderfynodd ymgymryd â her newydd fel aelod amser llawn o staff. Yma, mae’n amlinellu’r newidiadau a’r dyfodol ar gyfer FDA Cymru|Wales.
Fy niwrnod cyntaf fel Swyddog Cenedlaethol oedd 2 Mawrth 2020. Does dim angen i mi egluro beth ddigwyddodd nesaf, ond cafodd y pandemig effaith uniongyrchol ar fy nghynlluniau cychwynnol ar gyfer meithrin perthynas â chynrychiolwyr a chyflogwyr.
Fodd bynnag, fe wnaeth canslo cyfarfodydd a gweithgarwch arall yn y mis cyntaf hwnnw rhoi lle ac amser imi feddwl am yr hyn yr oedd ei angen i dyfu’r FDA yng Nghymru a datblygu strategaeth i gyflawni hynny, yn seiliedig ar adeiladu brand arbennig ar gyfer FDA Cymru a sefydlu presenoldeb corfforol yng Nghymru.
Er nad oedd modd lansio’n ffurfiol, yn 2020 sefydlwyd brand newydd gwahanol ar gyfer FDA Cymru|Wales, gan ddangos ein bod yn canolbwyntio ar adeiladu’r undeb yng Nghymru a darparu ar gyfer aelodau ledled y wlad. Fel undebwr llafur gydol oes ac yn Gymro balch ac angerddol, yr oedd hynny’n her yr oeddwn yn awyddus i’w hwynebu.
Er nad yw fy Nghymraeg ysgrifenedig fy hun yn berffaith – rwy’n cyfaddef i’r darn hwn fynd at gyfieithwyr cyn ei gyhoeddi – rwyf wedi arwain ymdrech ar y cyd i gynyddu cynnyrch Cymraeg yr undeb drwy ddarparu mwy o gynnwys ac adnoddau dwyieithog. Rwy’n cydnabod bod hyn yn hanfodol er mwyn gwasanaethu pob aelod ledled Cymru yn well a bellach mae’n uchelgais bersonol gennyf i wella fy nealltwriaeth a’m rhuglder fy hun.
Wrth gwrs, nid dyna’r cyfan rydyn ni’n ei wneud i gefnogi aelodau. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, drwy FDA Learn, rydym wedi darparu hyfforddiant pwrpasol i Estyn, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru. Rydym wedi sicrhau cyllid drwy Gronfa Ddysgu Undebau Cymru, sy’n ein helpu i hyrwyddo’r agenda Gwaith Teg a chynyddu amrywiaeth mewn rolau uwch. Buom yn llwyddiannus yn ymgyrchu dros gyllid ychwanegol – a pharhaol – ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru, gan ddiogelu swyddi a sicrhau dyfodol y sefydliadau hyn yn wyneb pwysau ariannol enfawr yn ystod y pandemig.
Rydym hefyd wedi sefydlu Fforwm FDA Cymru|Wales, sy’n dod â chynrychiolwyr o bob cangen ddatganoledig ynghyd, yn ogystal ag aelod o Bwyllgor Gweithredol Cymru Ddatganoledig a minnau, i rannu gwybodaeth am yr FDA yng Nghymru, gan godi ymwybyddiaeth, proffil ac aelodaeth yn sgil hynny. Y fforwm yw ein clust at y ddaear, sy’n ein galluogi i adnabod a siarad am faterion penodol sy’n ymwneud â Chymru.
Dathlodd yr undeb Ddydd Gŵyl Dewi eleni drwy gyflwyno tystiolaeth i ymgynghoriad Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd ar Weithdrefnau ar gyfer Delio â Chwynion yn erbyn Aelodau o’r Senedd. Roedd hyn hefyd yn destun ein cynnig i Gyngres Undebau Llafur Cymru eleni, lle’r oedd cyd-undebwyr llafur yn cefnogi ein hymgyrch i’r Senedd weithredu proses gwbl annibynnol ar gyfer delio â chwynion am fwlio, aflonyddu ac aflonyddu rhywiol yn erbyn Aelodau o’r Senedd – un lle nad yw Aelodau o’r Senedd yn chwarae unrhyw ran, hyd at a chan gynnwys penderfyniadau ar sancsiynau.
O ganlyniad i’r gweithgarwch hwn a’r ffocws newydd, mae’r FDA yn tyfu o ran maint a dylanwad yng Nghymru ac, am y tro cyntaf yn hanes yr undeb, rydym wedi sefydlu presenoldeb corfforol yng Nghymru drwy agor ein swyddfa newydd ym mhrifddinas y wlad. Bydd ein swyddfa yng Nghaerdydd yn gartref i FDA Cymru|Wales. Bydd hefyd yn ganolbwynt i gynrychiolwyr, aelodau a gweithgarwch undebau, a gobeithiaf groesawu llawer ohonoch drwy’r drysau dros y misoedd nesaf.
Gareth Hills yw Swyddog Cenedlaethol FDA Cymru ac mae’n trydar ar gyfrif @FDA_Wales
Related News
-
FDA welcomes additional CPS funding to support victims of crime
The FDA has welcomed that the CPS will be receiving additional resources. The announcement follows the recent publication of the FDA’s report examining the CPS’s role in increasing RASSO prosecutions.
-
Budget response: FDA welcomes HMRC investment but raises concerns over ongoing departmental efficiencies
Budget response: FDA welcomes HMRC investment but raises concerns over ongoing departmental efficiencies
-
FDA tells MSPs uncertainty around jobs regarding future of new education body has been “very difficult”
The FDA has expressed concerns over job security, pay and a long hours culture to the Scottish Parliament, regarding the creation of a new education body in Scotland.