Ni ddylid defnyddio newidiadau i derfynau amser cwynion y Senedd i “ddechrau â llechen lân”
Ray Morgan / Shutterstock.com
Siaradodd Gareth Hills, Swyddog Cenedlaethol yr FDA ar gyfer Cymru, â BBC Cymru ac ymddangosodd ar BBC Wales Today i ymateb i’r cyhoeddiad am newidiadau i’r terfyn amser ar gyfer gwneud cwynion am Aelodau’r Senedd. “Rydyn ni’n deall manteision pennu terfyn amser ar gyfer gwneud cwynion ond ni ellir defnyddio hyn i ganiatáu i fwlis a throseddwyr cyson ddechrau â llechen lân”, meddai Hills wrth David Deans.
Yn gynharach y mis hwn, rhyddhaodd Pwyllgor Safonau Ymddygiad Senedd Cymru ei Adolygiad o’r Weithdrefn ar gyfer Delio â Chwynion yn erbyn Aelodau’r Senedd. Y casgliad mwyaf arwyddocaol a ddeilliodd o’r adolygiad hwn oedd y penderfyniad i leihau’r terfyn amser ar gyfer cyflwyno cwyn am ymddygiad Aelod o’r Senedd o ddeuddeg mis i chwe mis, gyda Chadeirydd y Pwyllgor Vikki Howells AS yn datgan:
“Er mwyn sicrhau bod digwyddiadau’n dal yn ffres yn y cof a bod tystiolaeth ar gael yn rhwydd, mae’r Pwyllgor wedi pennu terfyn amser o chwe mis o ran derbynioldeb cwynion. Fodd bynnag, hoffwn roi sicrwydd y bydd y Comisiynydd yn ystyried cwynion sy’n ymwneud â digwyddiadau y tu allan i’r terfyn amser hwn lle mae rheswm da dros oedi”.
Fodd bynnag, dadleuodd Hills “pan fydd y weithdrefn yn cael ei chyflwyno, rhaid cael cyfnod lle bydd cyfle i staff gyflwyno cwynion hanesyddol i ymchwilio iddynt”. Ni ddylai penderfyniad i ymchwilio i gwynion a wneir ar ôl y terfyn amser o chwe mis “fod yn ôl disgresiwn y comisiynydd – dylid cael proses wedi’i diffinio’n glir ar gyfer ystyried achosion eithriadol”.
Byddai proses gyfundrefnol yn atal camddefnyddio prosesau ac yn osgoi sefyllfa lle byddai’r terfyn amser yn cymell Aelodau o’r Senedd i “lusgo eu traed”. “Efallai y bydd amgylchiadau lle nad yw staff yn teimlo’n gyfforddus yn mynegi cwyn nes bydd Aelod o’r Senedd wedi gadael y Senedd, ac mae hyn yn fwy tebygol o fod yn wir gyda honiadau difrifol iawn fel aflonyddu rhywiol” dadleuodd Hills.
Dywedodd Hills y byddai’r newid hwn yn golygu na fyddai proses Senedd Cymru yn cyrraedd safon y Cynllun Annibynnol Cwynion ac Anghydfod a sefydlwyd yn San Steffan, sydd bellach yn cael ei ddefnyddio i ymchwilio i gwynion am fwlio ac aflonyddu yn erbyn ASau. Aeth yn ei flaen: “Dan y gweithdrefnau presennol, mae Aelodau o’r Senedd yn dal i farcio eu gwaith cartref eu hunain, gan fod yn rhaid i’r Senedd gyfan gymeradwyo’r penderfyniadau terfynol ar sancsiynau yn erbyn Aelodau o’r Senedd”.
Ar Twitter, ailadroddodd FDA Cymru eu galwad am “gyflwyno Panel Arbenigol Annibynnol i bennu canlyniadau a sancsiynau priodol mewn achosion a gyfeirir gan y Comisiynydd Annibynnol, ac i wrando a phenderfynu ar apeliadau yn erbyn penderfyniadau a sancsiynau.”
Cafodd sylwadau Hills, a oedd yn cadarnhau safbwynt yr FDA, eu hadrodd mewn bwletinau newyddion bob awr ar radio BBC Cymru a’r newyddion amser cinio ar y teledu.
Related News
-
“Significant victory” for FDA members: MPs vote to introduce risk-based exclusion at the point of arrest
FDA welcomes MPs vote to introduce a formal mechanism to risk assess any MP at the point of arrest.
-
FDA calls on Senedd to implement “fully independent process for dealing with complaints of bullying, harassment and sexual harassment”
FDA Cymru|Wales has called on the Senedd to “implement a fully independent process for dealing with complaints of bullying, harassment and sexual harassment” made against MSs.
-
Announcement on risk-based exclusion in Parliament a “significant victory”, says FDA
Updated proposals on a risk-based exclusion policy in Parliament from the House of Commons Commission are a “significant victory” for the FDA and should now be implemented without delay.